Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

27 Chwefror 2017

SL(5)062 – Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae adran 166 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(“Deddf 2014”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan gyfuniadau o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Gwnaed Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) o dan y pwerau yn adran 166 a daethant i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol penodedig o dan gyfarwyddyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r prif Reoliadau hefyd yn pennu swyddogaethau’r awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.

Mae Rheoliadau 2017 yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu’r swyddogaethau o dan adran 14A o Ddeddf 2014 at y rhestr o swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol a bennir i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 19 o’r prif Reoliadau (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) drwy hepgor rheoliad 19(1)(c) ac ychwanegu rheoliad newydd 19(1A) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun os ydynt yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i asesiad o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel asesiad poblogaeth).

Maent hefyd yn diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (sy’n pennu swyddogaethau cymorth i deuluoedd timau integredig cymorth i deuluoedd) er mwyn mewnosod cyfeiriad at swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2014, i’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion gofal a chymorth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol a darparu cyngor a chymorth i bobl ifanc sy’n gadael gofal.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe'u gosodwyd ar:8 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: Heb ei nodi

SL(5)063 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru, ac ar gyfer y wybodaeth sy’n rhaid mynd law yn llaw â hysbysiad galw am dalu a gyflwynir ganddynt. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu a ddyroddir mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu wedi hynny.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 8 Chwefror 2017

Fe'u gosodwyd ar:10 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: 13 Mawrth 2017

SL(5)064 – Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016 (“Rheoliadau 2016”).

Mae rheoliadau 10, 23 a 34 o Reoliadau 2016 wedi eu diwygio i alluogi Gofal Cymdeithasol Cymru i gymhwyso i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol drwy Reolau’r Drefniadaeth Sifil am wŷs tyst. Gwneir y diwygiad mewn perthynas â phanel apelio cofrestru, panel addasrwydd i ymarfer a phanel gorchmynion interim.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 7 Chwefror 2017

Fe'u gosodwyd ar:14 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: 3 Ebrill 2017

SL(5)066 – Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae swyddogaethau craidd awdurdodau tân ac achub wedi eu nodi yn adrannau 6 i 8 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”). Y swyddogaethau sy’n gysylltiedig â diogelwch rhag tân, diffodd tân a damweiniau traffig ffyrdd yw’r rhain.  Mae adran 9 o’r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu drwy orchymyn swyddogaethau craidd eraill sy’n ymwneud ag argyfyngau y mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ddarparu ar eu cyfer. Mae “emergency” wedi ei ddiffinio yn adran 58 o’r Ddeddf.

Pennodd Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3193 (Cy. 280)) (“Gorchymyn 2007”) swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru mewn cysylltiad ag argyfyngau sy’n ymwneud â halogion cemegol, biolegol neu ymbelydrol; argyfyngau sy’n ymwneud ag adeiledd yn cwympo; ac argyfyngau sy’n ymwneud â threnau, tramiau neu awyrennau. 

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007. Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn pennu swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru mewn cysylltiad ag argyfyngau sy’n ymwneud â llifogydd a dyfroedd mewndirol. Mae erthygl 2(3) yn estyn erthygl 4(a) o Orchymyn 2007, sy’n pennu’r pethau y mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub eu gwneud wrth ddarparu ar gyfer argyfyngau a nodir yng Ngorchymyn 2007. Yn y dyfodol, fel rhan o  ddarparu ar gyfer yr argyfyngau hynny, bydd yn ofynnol i awdurdodau tân ac achub sicrhau y darperir cyfarpar.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004

Fe’i gwnaed ar: 15 Chwefror 2017

Fe'i gosodwyd ar:20 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017